Croeso i Ysgol Gynradd Rhiwlas
Mae’n bleser gennyf gael eich croesawu i wefan Ysgol Rhiwlas.
Mae awyrgylch hapus a gweithgar yn yr ysgol lle mae pawb yn cael eu trin fel unigolion ac yn cael eu hadnabod a’u gwerthfawrogi gan bawb arall yn yr ysgol.
Rydym yn ymfalchio yn ei natur gofalgar sydd yn annog ein disgyblion i fod yn unigolion annibynol hyderus o fewn cymdeithas.
Mae amgylchfyd yr ysgol yn cynnig cyfleoedd lawer ar gyfer astudiaethau awyr agored sydd yn sicr o gyfoethogi profiadau cwricwlaidd y plant. Mae gwarchodfa natur ym mhen pellaf y cae sydd yn yn cynnwys coedlan a nant fechan sydd yn cael defnydd cyson. Yn 2015 datblygodd yr ysgol ardal chwarae antur, a rydym yn y broses o ddatblygu ardal darllen stori yn y goedlan. Mae rhain oll yn cyfrannu tuag at ddatblygiad addysgiadol y plant.
Dengys y llywodraethwyr a’r rhieni ymroddiad gwerthfawr tuag at yr ysgol yn nhermau eu cefnogaeth i’n polisiau a’u cymorth wrth godi arian. Mae’r gymdeithas ffrindiau yn hynod o gefnogol ac wedi codi arian tuag at ddatblygu ein stor o offerynnau cerdd, datblygu sinema yn y neuadd, waliau bowldro i enwi ychydig.
Yn Ysgol Rhiwlas rydym yn darparu amgylchfyd diogel, hapus a threfnus lle mae plant yn datblygu parch at eraill, agweddau cyfrifol, hunan ddisgyblaeth, arferion gwaith da, parch at eu hamgylchfyd a balchder yn eu gwaith a’u llwyddiannau.
Gofynnwn i chwi fel rhieni gefnogi’r ysgol er mwyn datblygu’r agweddau gan sicrhau bod eich plant yn cyrraedd yr ysgol ar amser, yn ymddwyn yn briodol bob amser, yn cael ei annog i barchu eiddo pobl eraill ac eiddo’r ysgol, yr ysgol yn cael gwybodaeth ysgrifenedig / ffôn / ebost os yw eich plentyn yn absennol neu’n hwyr.
Mae’n bwysig eich bod yn dangos diddordeb cyson yn yr hyn mae eich plentyn yn wneud yn yr ysgol. Bydd cyfle i chwi ddod i’r ysgol i drafod datblygiad eich plentyn. Ein nod yw creu cymuned ofalgar a phwrpasol y gallwn oll fod yn falch ohoni.
Yr wyf yn barod bob amser i dywys darpar rieni a’u plant o amgylch yr ysgol. Ffoniwch neu galwch i mewn i drefnu ymweliad er mwyn cyfarfod y staff ac ymweld â’r dosbarthiadau.
Edrychwn ymlaen i’ch cyfarfod.
Iwan A Davies MA BA.dd (Prifathro)
X
Cysylltu
Prifathro: Mr Iwan Davies
Ysgol Gynradd Rhiwlas
Lon Rhiwlas,
Waen Pentir,
Gwynedd,
LL57 4EH