Ysgol Rhiwlas
Rydym yn gwerthfawrogi a pharchu ei disgyblion ac yn credu y dylai eu hamser yn yr ysgol fod yn werthfawr a boddhaus. Credwn ein bod yn cynnig addysg dda i’n plant mewn awyrgylch hapus a diogel. Rydym yn ymfalchïo yn y cyfleoedd a gant yn ogystal ac addysg eang a chytbwys o fewn awyrgylch gyfeillgar, warchodol a chydweithredol. Amlyga awyrgylch bositif, cwrtais a chyfeillgar yr ysgol ei hun yn syth wrth gerdded trwy prif fynedfa’r ysgol. Partneriaeth yw addysg rhwng ysgol a rhiant er budd ein plant. Mae eich cefnogaeth chi fel rhieni yn amhrisiadwy ac fe anogir chwi i ymddiddori yn addysg eich plentyn gan sicrhau ei ddatblygiad llawn yn gymdeithasol yn ogystal ac addysgol.
Er mwyn copi o'r polisi cwynion cliciwch yma