Hafan > Newyddion > Penblwydd Hapus Ysgol Rhiwlas
Penblwydd Arbennig Ysgol Rhiwlas
Eleni mae Ysgol Rhiwlas yn dathlu carreg filltir go arbennig – sef penblwydd yn 150 oed. Golyga hyn bod Ysgol Rhiwlas yn hŷn na Pier y Garth ym Mangor, Prifysgol Bangor, y Royal Albert Hall, y Tŵr Eiffel, a hyd yn y Statue of Liberty!
I nodi’r achlysur fe fydd y disgyblion yn brysur trwy gydol y flwyddyn yn dysgu am fywyd ysgol yn y cyfnod Fictoriannaidd, yn creu cân newydd ar gyfer yr ysgol, ac yn gwneud gwaith creadigol megis celf a ysgrifennu.
Mae gwahoddiad i’r gymuned ymuno yn y dathliadau drwy ymweld â’r ysgol dydd Sadwrn 20fed Ebrill rhwng 11am – 3pm. Dyma gyfle i grwydro a hel atgofion dros baned a theisen, a phori drwy ffotograffau archif o’r ysgol.
Os oes gennych chi neu aelod o’ch teulu ffotograffau o Ysgol Rhiwlas byddem wrth ein boddau eu gweld. Plîs gyrrwch gopïau at ysgolrhiwlasyn150@outlook.com
Felly cofiwch y dyddiad - dydd Sadwrn, 20fed Ebrill rhwng 11am – 3pm, prynhawn agored Ysgol Rhiwlas.
Eisteddfod yr Urdd
Mae Eisteddfod yr Urdd ar y gorwel, ac mae disgyblion Ysgol Rhiwlas wrthi’n brysur yn ymarfer! Pob hwyl i bawb gyda’r gwaith dysgu.
Manon Steffan Ros
Fel ysgol rydym yn ymfalchïo yn llwyddiant un o’n cyn ddisgyblion, sef Manon Steffan Ros. Fel y gwyddom bu i Manon ennill Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu yn 2023.Yn dilyn ennill y wobr cafodd Manon rodd hael o docynnau llyfr gan y Cyngor Llyfrau, iddi roi’n rhoddion i lyfrgell o’i dewis. Rydym yn hynod ddiolchgar bod Manon wedi cyfrannu tocynnau llyfrau i lyfrgell Ysgol Rhiwlas, a braf oedd croesawu Manon yn nol i’r ysgol i dderbyn y rhodd.
Palas Print
Cafodd rhai o ddisgyblion Ysgol Rhiwlas gyfle i fynd i siopio ym mis Ionawr – siopio am lyfrau. Gan fod Manon Steffan Ros wedi rhoi tocynnau llyfrau yn rodd i’r ysgol, roedd angen gwario! Croesawyd y disgyblion i siop Palas Print yng Nghaernarfon, ble gawsant fore gwerth chweil yn pori drwy’r silffoedd a phrynu llyfrau o’u dewis. Diolch i staff Palas Print am y croeso cynnes, a Manon am y rhodd a caredig. Mae llyfrgell yr ysgol yn werth ei weld!
Clwb Cerdd
Os ewch heibio Ysgol Rhiwlas ar brynhawniau Mercher byddwch yn siŵr o glywed synau peraidd yn dod drwy’r drws... beth sydd yn mynd ymlaen tybed? Wel, Clwb Cerdd newydd sbon dan arweiniad Mrs Alty. Braf i’w gweld y disgyblion yn arbrofi gyda offerynnau megis drymiau, piano, a gitâr. Daliwch ati bawb!